Carafan Gwyliau Bwlchgwyn Holiday Caravan

 

 

Cliciwch ar y lluniau uchod i'w gweld yn fwy manwl.

Manylion Cyswllt

Enw Cyswllt: Mr Dafydd Myrddin,
Cyfeiriad: Aberdaron LL53 8BY
Rhif Ffôn: 07968 354 539
Ebost: d.myrddin@btinternet.com

Nodweddion Arbennig

Categori: Hunan-ddarpar
Cysgu i fyny i 6 person

Mae ein carafan mewn lleoliad delfrydol i unrhyw un sy'n chwilio am heddwch a thawelwch cefn gwlad gyda digon o weithgareddau ar gael gerllaw i'r rhai sy'n dymuno cael gwyliau mwy prysur. Mae'r garafan Pemberton Elite sefydlog hon i 6 o bobl yn hafan lân a modern ac yn cynnig golygfeydd panoramig dros Benrhyn Llyn. Gallwch gerdded yn hamddenol i hen bentref gwyngalchog Aberdaron sydd lai na milltir i ffwrdd. Traeth tywod yn bennaf sydd yn Aberdaron ac y mae'n un cysgodol ac wedi ennill gwobrwyon. Mae gan y garafan gegin â chyfleusterau llawn: llestri, offer coginio, popty nwy a gril, oergell, microdon, tegell a thostiwr. Cyfleusterau cysgu: 1 ystafell ddwbl, ystafell â dau wely sengl a gwely dwbl y gellir ei dynnu allan. Darperir dillad gwely, duvets a gobenyddion. Ceir set deledu yn ardal yr ystafell fyw. Y tu allan ceir lawnt sy'n rhoi preifatrwydd a hefyd set o ddodrefn gardd ar eich cyfer. Ni chaniateir ysmygu yn y garafan. Dim anifeiliaid. Blaendal yn angenrheidiol adeg bwcio er mwyn cadw'r garafan a bydd angen talu'r balans cyn cyrraedd. See also: Bwlchgwyn Campsite - Now Open!


Top