The Mill, Felin Uchaf

 

 

Cliciwch ar y lluniau uchod i'w gweld yn fwy manwl.

Manylion Cyswllt

Enw Cyswllt: Jenny & Chris Rowland
Cyfeiriad: Felin Uchaf, Aberdaron, LL53 8HS
Rhif Ffôn: 01829 752109 | 07973 898123
Ebost: chris.n.rowland@btopenworld.com
Gwefan: www.aberdaronselfcateringholiday.co.uk

Nodweddion Arbennig

Categori: Hunan-ddarpar
Cysgu i fyny i 10 person

Melin ddwr hardd wedi ei thrawsnewid yn llety hunanarlwyo moethus a thrawiadol ar flaen penrhyn Llyn yng Ngogledd Cymru. Llawn cymeriad, trawstiau gwreiddiol, nenfwd crwm, muriau gwenithfaen trwchus yn ogystal â'r holl gyfleusterau modern. Saif y felin mewn llecyn tawel o'r neilltu, ac eto mae'n agos at Aberdaron (3 milltir) ac at Abersoch (6 milltir), ac o'i chwmpas ceir traethau tywod rhagorol, cildraethau cysgodol a llwybrau cerdded yr arfordir. Mae yma ddigonedd o bethau ar gyfer teuluoedd, cerddwyr, gwylwyr adar, seiclwyr a'r rhai ohonoch sy'n hoffi traethau a physgota. Lle i 10 o bobl, 1 gwely dwbl mawr, 1 gwely dwbl a 3 ystafell gyda dau wely sengl. Tair ystafell ymolchi (2 en suite) a phob un yn cynnwys cawodydd 'drench', gyda bath 'roll top' yn y brif ystafell ymolchi. Ar y llawr uchaf ceir lolfa cynllun agored fawr iawn ac ystafell fwyta gyda stôf losgi coed, teledu 42", Freesat, DVD, casgliad o DVDs a chist yn llawn o gemau amrywiol, gyda soffas lledr cyfforddus - ardderchog ar gyfer ymlacio. Cegin cwbl fodern a moethus, topiau gwaith gwenithfaen, popty range, peiriant golchi llestri, popty microdon ac oergell-rhewgell fawr, gyda golygfeydd panoramig gwledig rhagorol. Mae'r system wresogi dan y llawr ym mhob rhan o'r adeilad, y stôf losgi coed, y system ddwr poeth solar a'r goleuadau LED yn sicrhau fod hwn yn adeilad ecogyfeillgar. Ardal patio wedi ei dodrefnu ger nant a phwll y felin, gyda barbeciw a phopty pizza a gerddi eang. Mae'r ystafell olchi dillad a sychu esgidiau wedi eu lleoli yn yr hen Laethdy.


Top