Siop Sisial
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad: Aberdaron
Ffôn: 01758 760464
Ebosl: contact@sisial.co.uk
Mae siop Sisial wedi ei lleoli ym Mhorth y Swnt ynghanol Aberdaron. Mae yma ddewis helaeth o ddillad gan gwmni Mousqueton. Maent yn gwneud cotiau a chrysau i ddynion a merched mewn steil sy’n nodweddiadol o Lydaw. Mae’r dillad o safon da ac yn rhesymol iawn. Os oes angen dillad nofio neu fflip fflops arnoch, dewch yma. Mae Sisial yn cadw plancedi gwlân gan gwmni Tweedmill ac yn cadw ychydig o blancedi gan yr Ymddiriedolaeth hefyd. Cewch ddewis o emwaith gan Ronin a Kate Hamilton Hunter a chlustdlysau gan Bethan Roberts. O Wicklow yn Iwerddon y daw persawr Inis ac mae sebonau Celtic Herbals yn boblogaidd iawn. Dewis da o anrhegion – dewch i mewn i gael sbec.
Yn ôl i Busnesau Lleol