Hanes
Bu pobl yn byw yn Aberdaron a’r cyffiniau ers miloedd o flynyddoedd fel y tystiolaetha’r arwyddion : gweddillion safleoedd Oes y Cerrig, bryngaerau o’r Oes Haearn, beddrodau a meini hirion. Bu pobl yn crafu bywoliaeth drwy bysgota a ffermio am ganrifoedd, a cheir traddodiad morwrol hir ac mae’n dal yn bosibl dod o hyd i derfynau caeau hynafol. Roedd adnoddau naturiol, megis Manganîs hefyd yn rhoi gwaith i bobl hyd yr 20fed ganrif. Yn y canol oesoedd, daeth Cristnogion yma ar hyd llwybrau hynafol y pererinion o’r De a’r Gogledd i ymweld ag Ynys Enlli.
Heddiw, rydym yn darganfod amrywiaeth eang o flodau ac anifeiliaid ac mae ein tirlun a’n morlun unigryw yn gyrchfan atyniadol ac rydym yn croesawu ymwelwyr o bob rhan o’r byd i fwynhau’r rhan arbennig iawn ac anghysbell hon o Gymru.
Yr Iaith Gymraeg
Cymraeg yw un o ieithoedd mwyaf hynafol Ewrop ac mae’n perthyn i'r teulu ieithyddol Indo Ewropeaidd.Mae’r Cymry'n ddisgynyddion o’r llwyth Celtaidd a ddaeth i Brydain o gwmpas 600 C.C. Yn ystod meddiannaeth y Rhufeiniaid, ‘Brythoneg’ oedd yr iaith a lefarwyd gan y Celtiaid. Yn ystod y cyfnod yma bu i'r Celtiaid fenthyg nifer o eiriau Lladin; megis pont / pons, eglwys / ecclesia, ystafell / stabellum sydd yn parhau i’w cael eu defnyddio mewn Cymraeg modern heddiw.
Eglwys Hywyn Sant Adeiladwyd yr eglwys ar safle hen Dŷ Gweddi. Ym 1841 gadawyd yr eglwys a chodwyd adeilad newydd yn uchel uwchben y pentref. Er bod yr hen eglwys yn dal i gael ei defnyddio fel ysgol, a sefydlwyd ym 1835, roedd yr adeilad ar y cyfan mewn cyflwr truenus. Dechreuwyd ar y gwaith o atgyweirio Eglwys Sant Hywyn, gwaith a barhaodd dros nifer o flynyddoedd. Erbyn 1868 gosodwyd to newydd ar yr eglwys ac atgyweiriwyd y ffenestri. Yn ystod y gwaith adfer hwn cofnodwyd olion nifer o nodweddion, yn cynnwys mainc garreg, sgrin a seddau. Mae rhannau hynaf yr adeilad sydd wedi goroesi yn Normanaidd. Mae gan yr eglwys ddau gorff, a’r corff deheuol yw’r mwyaf a’r diweddaraf. Codwyd wal newydd y fynwent ym 1997 i gyfyngu ar erydiad y môr. Bu pererinion yn dod i Aberdaron ers y canol oesoedd, ar eu ffordd i Ynys Enlli. Daeth Sant Hywyn yn Abad ar Enlli ac mae cysylltiadau cryf rhwng yr ynys ac Aberdaron. Mwy o wybodaeth: |
Eglwys Maelrhys Sant |
Eglwys Aelrhiw Sant Mwy o wybodaeth: |
Capel Uwchmynydd |
Capel Bethesda, Rhoshirwaun |
Capel Nebo, Y Rhiw |
Sefydlwyd dau o’r capeli anghydffurfiol cynharaf ym Mhen Llŷn, y naill ym Mhenycaerau, ym 1768, a’r llall yn Uwchmynydd, ym 1770. Ym 1829 agorwyd Capel Cephas yr Annibynwyr, ac adeiladwyd Capel Nebo yn Y Rhiw ym 1813. Yn eu tro adeiladodd y Methodistiaid Wesleaidd Gapel Pisgah ym 1832. Erbyn 1850 roedd wyth o gapeli anghydffurfiol yn Aberdaron, pump yn Y Rhiw ac un ar Ynys Enlli ond byddai mwy eto yn cael eu hadeiladu. Agorodd y Methodistiaid Calfinaidd Gapel Tan y Foel, a chafodd Capel Bethesda, Rhoshirwaun ei adeiladu gan y Bedyddwyr ym 1904. Erbyn heddiw mae llawer o’r capeli hyn wedi cau a llawer wedi rhoi’r gorau i gynnal oedfa. |
Ffynnon Fair Map Ref: SH13922518 |
Ffynnon Saint |
Aelrhiw's Well Mae Ffynnon Sant Aelrhiw wedi ei lleoli mewn cae, sydd dros y ffordd i'r Eglwys. Mae hi tua 10 troedfedd sgwâr, ac wedi ei amgylchynu a wal gerrig, gyda Ilidiart a seddi cerrig. Dywedir fod y dŵr yn arbennig o effeithiol i wella anhwyider ar y croen, yn enwedig haint o'r enw "Man Aelrhiw (marc neu smotyn Aeirhiw). Map Ref: SH23382847 |
Mwy o wybodaeth: |
Gwefan "Bardsey Wildlife" - Cliciwch Yma
Bu bywyd ar Ynys Enlli yn un heriol erioed. Mae’r ynys wedi ei gwahanu o’r tir mawr gan Swnt Enlli, sianel sy’n enwog am ei cheryntau peryglus. Ymddiriedolaeth Ynys Enlli biau’r ynys ac sy’n gofalu amdani. |
Mae sawl rhywogaeth o adar môr yn dod i orffwys, nythu neu i aros ar yr ynys ar eu taith i rywle arall. Mae Arsyllfa Adar a Maes Ynys Enlli yn monitro ecoleg yr ynys a gallwch aros yn Cristin neu yn un o'r tai sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Ynys Enlli i brofi llonyddwch a thawelwch y darn bychan hwn o nefoedd sydd, yn rhyfedd iawn, heb ei ddifetha ac sy’n bwysig iawn yn hanesyddol. |
Heddiw, gallwch ymweld â’r ynys drwy gymryd cwch o Borth Meudwy gyda Colin. Mae ef a’i deulu yn byw ar Enlli ac mae’n wybodus iawn ynglŷn â’r tirwedd a’r bywyd gwyllt. |
(Saesneg yn unig - cyfieithiad i ddilyn)
Pilgrimages along the Northern Route from St Winefride's Well, Holywell to Bardsey are organised through the North Wales Pilgrim's Way - a distance of 150 miles - see their website for details.
The Porter Family have been farming on Enlli since 2007 and keep a blog with lots of interesting snippets and photos about their life on the island. You can visit their blog by clicking here.
Mwy o wybodaeth:
llun © Mick Sharp & Jean Williamson |
DYMA FEDDFEINI y ddau offeiriad Cristnogol. Fe'i canfuwyd yn nyffryn bâs blaenddyfroedd yr aton Saint, gerllaw'r fferm a elwir heddiw yn GORS, wrth odre MYNYDD ANELOG. Awgryma'r cyfeiriad at ‘llawer o frodyr’, er nad yw'n profi, mai o fynwent cymuned grefyddol, neu fynachdy y daethant.
Deuthpwyd o hyd iddynt yn y ddeunawfed ganrif, ac mae'n bur debyg mai o'r cyfnod hwnnw y dyddia'r hen enw CAPEL VERACH. Blynyddoedd yn ddiweddarach, yr oedd y ffermwr am iddynt gael eu symud, ac felly, er mwyn eu diogelu, aethpwyd a hwy i Dy Cefn Amlwch a'u gwarchod gan deulu Wynne Finch, nes iddynt gaei eu cludo i Eglwys Hywyn Sant, Aberdaron.
Mae hwn yn gartref addas iawn iddynt, gan mai'r tebygrwydd yw mai'r gymuned grefyddol yn Aberdaron oedd yr un a ddilynodd yr un wrth odre'r Anelog, a bod cysylltiadau agos iawn gan y ddwy gymuned ag Ynys Enlli.
Dau glogfaen yn eu cyflwr naturiol, dðr-dreuliedig yw'r cerrig, ond mae'r llythrennuarnynt yn ofalus a soffistigedig, y talfyriadau yn arferol a chywir. Dylid nodi'r croes-barrau onglog ar y llythrennau 'A' a'r seriffiaid* fforchog.
Yn ôl pob tebyg, siaradai'r gwyr a naddodd y cerrig hyn, Ladin yn ogystal a'r Frythoneg (rhagflaenydd y Gymraeg gyfoes), a thrigo oddi mewn i fyd diwylliant Cristnogol clasurol. Ni ellir dyddio'r arysgrifau yn agosach na 'diwedd y bumed ganrif neu ddechrau'r chweched'.
Mae'n bosib bod y cafn hirsgwar wrth ymyl y ffordd bresennol, dan Fynydd Anelog, yn dynodi'r man lle safai capel bychan a adnabuwyd yn y Canol Oesoedd fel CAPEL VERACH, a hwnnw, yn ei dro, wedi dwyn i gof hen fan gysegredig. Dylid nodi bod y cyfan o dir Anelog, fel y'i disgrifwyd, heddiw yn eiddo prelfat.
*seriff - Ilinell-groes a ddefnyddid i 'orffen' llythyren.
Maen Aswy |
Maen Deau |
GORWEDD |
GORWEDD YMA |
Mwy o wybodaeth:
Mwyngloddio Adnoddau Naturiol
Darganfuwyd manganîs yn Y Rhiw ym 1827 ac roedd Mwynfeydd Y Rhiw yn cyflogi pobl leol o 1840 ymhell i’r 1940au. Defnyddiwyd y metel hwn yn y diwydiant dur ac roedd galw mawr amdano yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Angorai llongau wrth lanfeydd ym Mhorth Ysgo a Phorth Neigwl.
(Saesneg yn unig - cyfieithiad i ddilyn)
The ruins of the drum house and adjoining weigh-machine house at Nant y Gadwen These were located next to the marshalling yard and at the top of the final incline leading to the Porth Ysgo pier. Two inclines fed down from the end of the Benallt Tramway above to this level. One of these can be seen clearly behind the drum house. The drum house at the top of it has been demolished.
The Jetty at Porth Ysgo |
Benallt Miners 1907 |
A small 'Mango' Vessel |
(much more information & bigger versions of these images at www.rhiw.com) |
Roedd maen iasbis, math o galsedon coch, yn cael ei gloddio yng Ngharreg Plas. |
Ar un adeg roedd odyn galch ar y traeth yn Aberdaron, ar safle maes parcio presennol yr eglwys a hefyd ar draethau Porthor, Porth Orion, Porth Meudwy, a’r Rhiw. Roedd pridd yr ardal yn asidig a defnyddid y calch brwd a gynhyrchai’r odynau calch i wella’r tir. |
Mwy o wybodaeth:
Llongau a Llongddrylliadau
Yn y dyddiau cyn i ffyrdd ddod yn brif lwybrau teithio, roedd y môr yn llawn o longau o bob maint yn cludo llwythi yn ôl ac ymlaen o Lŷn. Roedd y llanw a’r creigiau peryglus o amgylch yr arfordir yn enwog a chollodd llawer eu bywydau ar y môr. Y llong olaf i gael ei hadeiladu yn Aberdaron oedd y slŵp Victory ym 1792.
On a sea-captain’s grave in the churchyard: (Saesneg yn unig)
The roaring wind and raging seas
Have tossed me to and fro,
In spite of both, by God’s decree
I harbour here below
When safe at anchor I do lay
With many of our fleet,
Yet once again, I must set sail
Our Saviour Christ to meet.
Mwy o wybodaeth:
Smyglo
Roedd smyglo yn rhan annatod o fywyd pobl yr ymylon. Roedd llongddrylliadau yn ffordd o gael ysbail ac roedd y ffaith ei bod yn amhosibl plismona’r arfordir creigiog yn rhoi cyfle i osgoi swyddogion y tollau.
Mwy o wybodaeth:
Y Gegin Fawr - Mae’r gegin wedi darparu prydau i deithwyr sy’n dod i Enlli ers y 13eg ganrif |
Yr Hen Swyddfa Bost – a gynlluniwyd gan Clough Williams-Ellis, pensaer Portmeirion. |
Eglwys Hywyn Sant |
Mae’n bosibl gweld casgliad anhygoel o dudalennau o hen gardiau post atmosfferig a ffotograffau yn ogystal â hanesion, Cyfrifiadau a llawer mwy o wybodaeth yn www.rhiw.com.
Adnodd rhagorol arall eto o luniau, ffotograffau a storïau i’w gael yn www.cimwch.com.
Mwy o wybodaeth:
Gwefan "Bardsey's Wildlife" - cliciwch yma
Mae gan Ben Llŷn gyfoeth o flodau ac anifeiliaid ar dir a môr, ac mae ystod y cynefinoedd yn eang iawn ac yn rhoi pleser i'r rhai sy’n ymhyfrydu mewn bioleg.
Uwchmynydd
Un o’r mannau gorau i brofi môr ac arfordir Gwynedd yw Uwchmynydd. Yn sefyll ar y pentir ym mhen draw un Penrhyn Llŷn, rydych yn siwr o deimlo grym y môr yno, yn ogystal ag aruthredd y clogwyni a gwerth y rhostiroedd arfordirol i adar allweddol fel y frân goesgoch a chlochdar y cerrig. Yr hyn sy’n anodd ei weld a’i werthfawrogi’n llawn yw’r cyfoeth o fywyd gwyllt cwbl ryfeddol sy’n byw o dan y môr a’i donnau.
(Saesneg yn unig - cyfieithiad i ddilyn)
Some of the bird and animal species you will see on Pen Llŷn:
Buzzard, Chough, Curlew, Fulmar, Gannet, Great Black-backed Gull, Guillemot, Razorbill, Heron, Herring Gull, Jackdaw, Kittiwake, Manx Shearwater, Oyster Catcher, Peregrine Falcon, Puffin, Sand Martin, Shag, Cormorant, Raven, Waders, and miscellaneous summer visitors and many garden birds. Mammals including Atlantic Grey Seals, Porpoises, Bottlenose Dolphins and Common Dolphins.
Flora found in St Hywyn’s Churchyard:
Lady’s Bedstraw; Wild Carrot; Kidney Vetch; Sea Beet; Rest Harrow; Bird’s Foot Trefoil; Mayweed; Lavender; Thrift; Yarrow; Harebell; Common Mallow.
Other unusual plant species:
Golden Hair Lichen |
Golden Samphire |
Llŷn AONB Key Species - information can be found from page 15 of this pdf
Check out the species database at Discover Gwynedd
Mwy o wybodaeth: