Mannau i Ymweld
Gweler ein tudalen Gweithgareddau er mwyn cael digon o bethau i’w gwneud a’n tudalennau Diwylliant a Hanes i gael rhagor o syniadau am leoedd i ymweld â hwy.
Aberdaron Beach |
Porth Ysgo |
Porthor |
Mae traethau Penrhyn Llŷn yn gwbl naturiol a glân ac mae digonedd ohonynt! Mae hyd yn oed yn bosibl gweld y frân goesgoch brin, dolffiniaid a morloi. Tywod aur, traethau eang a childraethau neilltuedig, a’r cwbl o fewn ychydig filltiroedd i Aberdaron. Mae traethau tywod hardd a neilltuedig wedi eu gwasgaru ar hyd arfordir trwyn Penrhyn Llŷn – a cheir cyfle bob amser i weld brain coesgoch, morloi a dolffiniaid. Mae mynediad hwylus, toiledau a maes parcio yn Nhraeth Porthor. (Ni chaniateir cŵn yn ystod y tymor.) Mae ychydig mwy o waith cerdded ym Mhorth Neigwl, Porth Meudwy a Thraeth Penllech a thipyn o waith dringo serth ym Mhorth Ysgo. Mae sawl traeth arall i’w archwilio – edrychwch ar y map! Mae mannau ardderchog ar gyfer picnic a thorheulo. Ar lawer o’r traethau ni cheir fawr o gysgod ac ychydig iawn o gyfleusterau modern sydd i dwristiaid. Mae amserlenni llanw ar gael yn lleol.
St Maelrhys Church, Porth Ysgo, near Aberdaron LL53 8AN. |
Eglwys Hywyn Sant Adeiladwyd yr eglwys ar safle hen Dŷ Gweddi. Ym 1841 gadawyd yr eglwys a chodwyd adeilad newydd yn uchel uwchben y pentref. Er bod yr hen eglwys yn dal i gael ei defnyddio fel ysgol, a sefydlwyd ym 1835, roedd yr adeilad ar y cyfan mewn cyflwr truenus. Dechreuwyd ar y gwaith o atgyweirio Eglwys Sant Hywyn, gwaith a barhaodd dros nifer o flynyddoedd. Erbyn 1868 gosodwyd to newydd ar yr eglwys ac atgyweiriwyd y ffenestri. Yn ystod y gwaith adfer hwn cofnodwyd olion nifer o nodweddion, yn cynnwys mainc garreg, sgrin a seddau. Mae rhannau hynaf yr adeilad sydd wedi goroesi yn Normanaidd. Mae gan yr eglwys ddau gorff, a’r corff deheuol yw’r mwyaf a’r diweddaraf. Codwyd wal newydd y fynwent ym 1997 i gyfyngu ar erydiad y môr. Bu pererinion yn dod i Aberdaron ers y canol oesoedd, ar eu ffordd i Ynys Enlli. Daeth Sant Hywyn yn Abad ar Enlli ac mae cysylltiadau cryf rhwng yr ynys ac Aberdaron. Mwy o wybodaeth:
|
Plas yn Rhiw Maenordy tra dymunol gyda gardd addurnol a golygfeydd godidog. Cafodd y tŷ oedd mewn cyflwr truenus, ei achub a’i adfer yn ofalus gan y tair chwaer Keating ar ôl ei brynu ym 1938. O’r tir o’i amgylch a’r gerddi ceir golygfeydd dros Fae Ceredigion - rhai o’r golygfeydd mwyaf trawiadol ym Mhrydain.
|
Porth y Swnt Mae’r ganolfan dehongli unigryw yma yng nghanol Aberdaron yn defnyddio barddoniaeth a chelf i amlygu’r rhinweddau arbennig sy’n gwneud Llŷn yn ardal mor gyfoethog o ran hanes, diwylliant ac amgylchedd. Wedi ei ysbrydoli gan bererinion sydd wedi teithio i Aberdaron ac i Ynys Enlli am gannoedd o flynyddoedd, mae Porth y Swnt yn mynd a chi am daith bersonol arbennig. Teithiwch i fyny o’r ‘Dwfn’ sydd yn dywyll ac yn atmosfferig, trwy’r ‘Ffordd’ lle gwelir rhyngweithiad dyn a’r tir, i fyny i’r ‘Golau’ lle welwch ganolbwynt y ganolfan- optic goleudy Ynys Enlli sydd wedi cael ei ddigomisiynu. Ar hyd y daith gallwch ddarllen eiriau beirdd lleol, gwylio ffilm a thafluniad golau, clywed synau sy’n ysgogi’r meddwl, a gweld lluniau hanesyddol o’r ardal. Yn agored trwy’r flwyddyn mae Porth y Swnt yn ganolbwynt perffaith i archwilio a mwynhau'r ardal a’r oll sydd ganddo i’w gynnig. http://www.nationaltrust.org.uk/porth-y-swnt/
|
Ynys Enlli Mae dau o lwybrau hynafol y Pererinion ym Mhenrhyn Llŷn yn arwain at Ynys Enlli. Aberdaron yw’r man olaf i orffwys a chael lluniaeth cyn y daith derfynol drosodd i’r ynys ar draws môr tymhestlog Swnt Enlli. Yn y Canol Oesoedd, ystyrid fod tair pererindod i Enlli yr un mor fuddiol i’r enaid ag un bererindod i Rufain. Gellir trefnu teithiau mewn cwch i Ynys Enlli drwy Ymddiriedolaeth Ynys Enlli neu’n uniongyrchol drwy Mordeithiau Enlli neu Enlli Charter. Mae’n bosibl llogi llety ar yr ynys drwy Ymddiriedolaeth Ynys Enlli. Mae yna fwy o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Hanes.
|