Teithiau Cerdded Poblogaidd

 

Cylchdeithiau Digidol Newydd Llŷn - Mewn cydweithrediad gyda Partneriaeth Tirlun Llŷn mae’r Uned AHNE wedi llunio cyfres o deithiau digidol, wedi eu seilio ar Borthdinllaen, Nefyn, Pwllheli, Llanbedrog, Rhiw ac Aberdaron. Am fwy o wybodaeth neu i lawrlytho'r ap, cliciwch yma i ymweld â'u gwefan.

 

Llwybr Arfordir Llŷn Coastal Path

Wedi mynd heibio i Borth Colmon byddwch yn cyrraedd porth bychan – Porth Widlin ac yna byddwch yn gadael yr arfordir am ychydig cyn ailgyfarfod y môr wrth Borthor. Wrth fynd o amgylch y penrhyn byddwch yn llygad y gwynt a dengys y creigiau serth a chaled mai’r tonnau gwyllt sy’n llunio’r dirwedd hon.

Uwchlaw’r creigiau gwelwch rosydd bendigedig gyda’u cyfoeth o eithin a grug sydd wedi eu siapio ar ffurf donnog gan y gwynt.  Mae planhigion megis clustog fair a theim gwyllt yn dibynnu ar y pridd sur am gynhaliaeth.

Ar y clogwyni eu hunain mae’r cyfle gorau i fywyd gwyllt diddorol a phrin ymgartrefu. Dyma gadarnle arwyddlun Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn, sef y fran goesgoch a adnabyddir o’i chri groch a’i phig a’i choesau cochion. Yn y gwanwyn a’r haf, pan fydd y gwynt wedi gostegu rydych yn debyg o glywed galwadau’r llurs, yr wylog a’r amryw wylanod yn paru a magu cywion ar silffoedd y graig.

Mae’r llu cen, gwymon amrywiol, sbyngau, llygaid maharen a gwichiaid sydd ynghlwm wrth y creigiau isaf yn byw o fewn cyrraedd y llanw a’r tonnau.

O Uwchmynydd gwelwch Ynys Enlli, yn ôl yr hanes cyrchfan i 20,000 saint wnaeth bererindota dair gwaith i Enlli yn hytrach nag un waith i Rufain. Yn ôl y sôn mae yma 20,000 o saint yn gorffwys.

Ar ôl gadael Uwchmynydd, byddwch unwaith eto’n troi i’r dwyrain gan ddod yn gyntaf i bentref tawel Aberdaron.

Wedi gadael Aberdaron, rhaid gwyro i ffwrdd o’r arfordir am ryw hyd cyn ail ymuno ag o ym Mhorth Ysgo, oedd unwaith yn fwrlwm o brysurdeb pan oedd cloddio am fanganîs ar ei anterth. Daeth dyddiau'r mwyngloddio i ben yn 1945 a bellach dim ond cerddwyr ac ambell bysgotwr sy’n ymweld â Phorth Ysgo.

Wedi dringo’n raddol heibio i bentref bach y Rhiw byddwch yn mynd heibio i Blas yn Rhiw, maenordy o’r unfed ganrif ar bymtheg a adferwyd gan y chwiorydd Keatings yn ystod yr ugeinfed ganrif, cyn iddynt ei ewyllysio i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1949.

O Blas yn Rhiw gwelwch ehangder Porth Neigwl, os yw’r llanw ar drai a gallwch ddilyn y traeth, taith o tua thair milltir a hanner, cyn cyrraedd godre Mynydd Cilan. Os nad ydych am fentro ar hyd y traeth, gallwch fynd tua’r tir ac ymweld â phentrefi hynafol Llangian a Llanengan.

Ewch o Fynydd Cilan ymlaen i Borth Ceiriad sy’n hafan i fywyd gwyllt megis gwenyn, sboncen y gwair a phili-palod amrywiol sy’n cartrefu yma ynghyd ag adar y môr sy’n nythu ar y clogwyni.

Wrth adael ardal Cilan daw ynysoedd Sant Tudwal i’r golwg, dyma arwydd eich bod yn agosáu at fwrlwm pentref Abersoch sydd mor boblogaidd gydag ymwelwyr.

Noder, os gwelwch yn dda, fod y daith a ddangosir ar y mapiau diweddaraf yn wahanol i’r hyn a ddangosir ar fapiau a chyhoeddiadau blaenorol. Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr arwyddion ar y ddaear yn dangos llinell newydd y llwybr. Serch hynny, mae’n bosib na fydd yr arwyddion newydd wedi eu cwblhau ym mhob man ac ymddiheurwn am unrhyw broblemau dros dro all hyn achosi i gerddwyr.

Edrychwch ar ein map rhyngweithiol sy'n dangos 3 o deithiau cerdded ar Benrhyn Llŷn.

 

Walking

llun © Crown copyright (2012) Visit Wales

Mwy o wybodaeth & syniadau: