Byw ar Ben Llŷn
Erbyn hyn mae pysgota masnachol wedi ei gyfyngu i ambell gwch Crancod a Chimychiaid sy’n dod â rhai o’r cramenogion o’r ansawdd gorau posibl i'r lan. Mae’r rhain yn cael eu paratoi a’u gwerthu yn lleol a’u hanfon i bob rhan o’r DU i’r fodloni'r sawl sy'n gwerthfawrogi'r gorau. |
Mae’r Cimychiaid a’r Crancod sy’n cael eu dadlwytho ym Mhorth Meudwy yn cael eu prosesu ar safle Fferm Cwrt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae Porth Colmon hefyd yn dal i gael ei ddefnyddio i ddadlwytho Crancod a Chimychiaid sy’n cael eu dal ar yr Arfordir Gogleddol, ac mae’r rhain hefyd yn cael eu prosesu ac ar gael yn lleol drwy ‘Selective Seafoods’. |
Mae defaid, gwartheg a ffermio tir âr yn cynnal rhostiroedd ar ben y bryniau a’r caeau gwyrdd, gyda chloddiau cerrig traddodiadol wedi eu gorchuddio â glaswellt a gwrychoedd sy'n cynnig lloches i fywyd gwyllt. |
Tynnu â Thractorau yn Nghystadleuaeth Cymdeithas Aredig Cymru. |
Mae’r achlysur traddodiadol ar gyfer y mentrus o ymdrochi ar ŵyl San Steffan, yn codi arian i elusennau lleol. |
Mae Codi Cestyll Tywod yn y gystadleuaeth ar Ŵyl y Banc ym mis Awst yn hwyl i ymwelwyr a phobl leol o bob oedran. |
Mae Cwch Enlli yn gadael o Borth Meudwy, os yw’r tywydd yn caniatáu. |
(Saesneg yn unig - cyfieithiad i ddilyn) Life on Bardsey - Christine Evans takes her grandchild for a walk on the island with a couple of hangers-on! |