Wi-fi

 

Aberdaron: Technoleg ddiweddaraf ar lan y Llŷn

wifi

 

Dewiswyd Aberdaron gan Arloesi Gwynedd Wledig i dreialu sut i ddod â mynediad Wi-Fi cyhoeddus i gymunedau anghysbell a gwledig.

 

Mae mynediad i'r rhyngrwyd yn hanfodol wrth sicrhau bod y twristiaid modern yn gallu gwneud y gorau o'u hymweliad mewn ardal ac yn gadael eu ffrindiau a'u teuluoedd wybod am yr amser gwych maent yn ei gael!

 

Mewn dinasoedd mawr mae ymwelwyr yn mwynhau cysylltiad rhad ac am ddim i Wi-Fi sy’n cael ei ddarparu fel arfer gan un o'r cwmnïau telathrebu mawr, ond mewn ardaloedd gwledig nid yw hyn yn wir, ac i wneud pethau'n waeth, mae'r ardaloedd hyn - fel Aberdaron - yn aml yn dioddef o ddarpariaeth symudol wael iawn a dim cysylltiad 3G/4G.

 

Oes bosib i gymunedau gwledig gwneud pethau ffordd eu hunain a dod o hyd i ffyrdd creadigol ac arloesol i gadw i fyny ar fyd modern? Dyma beth mae Arloesi Gwynedd Wledig yn ceisio’i ganfod!

 

Mae Arloesi Gwynedd Wledig wedi ariannu gosod mynediad i rwydwaith Wi-Fi cyhoeddus ar draws pentref Aberdaron i ddysgu sut y gallai cymunedau gwledig yng Ngwynedd rhedeg eu rhwydwaith Wi-Fi ei hunain.

 

Drwy fanteisio ar gysylltiad Band Llydan Cyflym a ddarperir i'r pentref gan Raglen Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru mae Arloesi Gwynedd Wledig yn cyd-weithio gyda busnesau lleol a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol - sydd i gyd yn aelodau o grŵp Twristiaeth Aberdaron a'r Cylch. Cefnogir y prosiect drwy osod trosglwyddyddion ar eu hadeiladau er mwyn cyflenwi Wi-Fi am ddim i bawb sy'n ymweld â'r pentref a'r traeth cyfagos.

 

Eglurodd Geraint Jones, cadeirydd y grŵp Cyswllt Twristiaeth Aberdaron a’r Cylch, "Y dyddiau hyn mae pobl o bob oed yn disgwyl medru cysylltu â'r rhyngrwyd i rannu gwybodaeth ar Facebook, gwneud archebion neu i weld pryd mae atyniadau lleol ar agor. Mae medru gwneud y pethau hyn wrth aros yn Aberdaron yn beth da iawn i fusnes."

 

Dewiswyd Aberdaron ar gyfer y cynllun peilot oherwydd ei daearyddiaeth unigryw a bod miloedd o dwristiaid yn ymweld â’r pentref bob blwyddyn. Bydd hwn yn rhoi prawf cadarn ar y seilwaith digidol ac yn profi a oes galw am y math hwn o ddarpariaeth.

 

Esboniodd Rachel Roberts o Arloesi Gwynedd Wledig "Byddwn yn monitro'r gwasanaeth dros y 12 mis nesaf ac yn gofyn am adborth gan ddefnyddwyr. Bydd hon yn wybodaeth ddefnyddiol iawn i gymunedau eraill yng Ngwynedd sydd hefyd yn dioddef o gysylltedd cyfyngedig ac eisiau dilyn esiampl Aberdaron".

 

Ar ddiwedd y cynllun peilot 12 mis, crëir pecyn cymorth a fydd yn cynnwys gwybodaeth am sut y sefydlwyd y gwasanaeth, ynghyd â'r holl wersi a ddysgwyd. Bydd hwn ar gael i'r cyhoedd drwy wefan Arloesi Gwynedd Wledig.

 

Cyllidir Arloesi Gwynedd Wledig drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymruy a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

 

Am ragor o wybodaeth am y prosiect, ewch i wefan Arloesi Gwynedd Wledig www.arloesigwyneddwledig.com neu ein tudalen Facebook

 

Am wybodaeth am Raglen Cyflymu Cymru ewch i’w gwefan
www.superfast-cymru.com/home

 

Cliciwch yma i ddarllen y datganiad i'r wasg 23/05/16