Gweithgareddau
Milltiroedd lawer o lwybrau, y llwybr arfordirol a lonydd gwledig tawel i’w harchwilio.
Mae mapiau ar gael yn lleol.
Llwybr Arfordir Llŷn - mwy o fanylion ar ein tudalen Teithiau Cerdded Poblogaidd.
Geocaching
Gweithgaredd tebyg i helfa drysor yw Geocelcio (geocaching) gyda manteision unedau llywio â lloeren GPS, wedi ei gyfuno â holl adnoddau’r rhyngrwyd. Mae 4000 ardal geocelcio yng Nghymru a gellir dod o hyd iddynt ar wefan Geocaching Cymru: www.geocachingwales.com
Image © Turtle Photography |
Aberdaron a Porthor (yn dibynnu ar gyfeiriad y gwynt) yn well ar gyfer dechreuwyr a Porth Ceiriad a Phorth Neigwl â chyflyrau mwy heriol ar gyfer syrffwyr profiadol.
Mwy o syniadau & gwybodaeth:
Mae seiclo yn ffordd ardderchog o ddarganfod yr ardal, a’r golygfeydd panoramig trawiadol yn rhoi boddhad mawr. Mae’n bosibl llogi beiciau yn lleol.
Local Map: Ordnance Survey Explorer 12: Llŷn Peninsula West
Llŷn Cycle Routes
Mynydd yr Ystum
Ar ran gyntaf y daith, o Aberdaron ac ar hyd yr arfordir, byddwch yn dilyn Ffordd y Pererinion a redai o Glynnog Fawr i Ynys Enlli. Yn Eglwys Hywyn Sant mae dwy garreg fedd o'r 6ed Ganrif ac yn Y Gegin Fawr, sy'n gaffi poblogaidd, y gorffwysai'r pererinion cyn mentro ar draws y Swnt stormus. Mae hanes yn glynu yn dynn ym mhendraw Llŷn. Ewch heibio i gromlech, maen hir a ffatri arfau Oes y Cerrig, a bydd modd galw yn yr eglwys dawel a hardd yn Llangwnnadl - cyrchfan arall i'r seintiau.
Garn Fadryn
Wrth ddringo o Abersoch i Fynytho fe welwch Garn Fadryn o'ch blaenau, ac ar y chwith bydd Porth Neigwl, Ynys Enlli a Mynydd y Rhiw. Yn y safle picnic yng nghysgod Y Foel Gron, Mynytho, cewch fwynhau golygfeydd ysblennydd dros Fae Ceredigion ac at fynyddoedd Meirionnydd. Mae'r Ynysoedd Tudwal yn gorwedd yn dawel yng nghanol prysurdeb Bae Abersoch.
Côd Beicio Da
- Darllenwch Reolau'r Ffordd Fawr; dilynwch nhw bob amser.
- Ystyriwch eraill; yn argennig ar lwybrau lle rhennir defnydd.
- Byddwch yn ymwybodol o gerddwyr, canwch y gloch neu galwch arnynt yn gwrtais i'w rhybuddio.
- Sicrhewch fod eich beic mewn cyflwr da.
- Cymerwch ofal wrth gysylltfannau ffyrdd ar elltydd serth, ac ar dywydd gwlyb.
- Gwisgwch helmed beic a defnyddiwch ddillad adlewyrchyddion llachar.
Mwy o syniadau & gwybodaeth:
Gyda llawer o adar y môr sy'n mudo drwy'r ardal ac yn nythu ar y clogwyni a llawer o rywogaethau o adar bach, mae digon i'w weld drwy gydol y flwyddyn.
(cyfieithiad i ddilyn yn fuan...)
Some bird species you will see: Buzzard, Chough, Curlew, Fulmar, Gannet, Great Black-backed Gull, Guillemot, Razorbill, Heron, Herring Gull, Jackdaw, Kittiwake, Manx Shearwater, Oyster Catcher, Peregrine Falcon, Puffin, Sand Martin, Shag, Cormorant, Raven, Waders, and miscellaneous summer visitors and many garden birds.
Mwy o syniadau & gwybodaeth:
Pysgota môr ar y traeth neu gellir llogi cwch. Mae pysgota bras ar gael yn Llŷn Leisure. Gwerthir offer pysgoga ac abwyd yn y siopau lleol.
Pysgota Môr
Mae’n bosibl llogi cychod o Bwllheli neu gallwch lansio eich cwch bychan eich hun o draeth Aberdaron am dâl bychan. (Cysylltwch â Chyngor Gwynedd i gael rhagor o wybodaeth.)
Mae sawl rhywogaeth o bysgod i’w cael yn yr Haf - Gwrachod, morleisiaid, mecryll, morgwn brych, morgathod, lledod coch, llysywod môr a morgwn. Hefyd yn achlysurol: morgwn llyfn. Yn y Gaeaf- gwyniaid môr, penfreision ifanc, a chelogiaid.
Mae Uwchmynydd yn cynnig pysgota rhagorol oddi ar greigiau i rai anturus. Mae Traethau Porthor ac Aberdaron yn lleoedd ardderchog i bysgota ar y traeth.
Pysgota Bras
Mae Llŷn Leisure yn cynnig llynnoedd dŵr croyw gyda chyflenwad o Garpiaid a Sgretenod.
Mwy o syniadau & gwybodaeth:
Mae Cymdeithas Hwylio Hogia Llŷn yn cynnal Regatas yn ystod yr haf ac mae ganddynt gychod clincer traddodiadol a 'Toppers'.
Os ydych yn cynllunio mynd â chwch neu gaiac i’r môr cofiwch gofrestru â Gwyliwr y Glannau – mae’n rhad ac am ddim!
Os ydych yn cynllunio lansio yn un o lithrfeydd y cyngor, mae angen ichi gofrestru yn gyntaf a dangos yswiriant. Cysylltwch â Chyngor Gwynedd i gael rhagor o wybodaeth.
Sylwer: ceir cyfyngiadau cŵn ar rai traethau - cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Mae’r arfordir yn cynnig digon o bethau i’w harchwilio a sialensiau i gaiacwyr mwy profiadol.
Mae syrffio caiac a physgota o gaiac hefyd yn bosibl.
Bydd apelio i bob oed caiacio môr yn gadael i chi archwilio arfordir Cymru a tonnau môr. Ewch am daith i mewn ogofâu, o amgylch ynysoedd anghyfannedd ac ar draethau na ellir eu cyrraedd ar droed, ac wrth i chi padlo y draethlin youll 'canfod digonedd o fywyd gwyllt a allai gynnwys morloi a dolffiniaid chwilfrydig nofio gerllaw. Yn dibynnu ar eich lefel profiad a, naill ai fynd ar daith gyffrous chwilfriwio drwy tonnau neu badlo tawel ar draws dyfroedd llyfn.
Mwy o syniadau & gwybodaeth:
Mae Ynys Gwylan Fawr & Bach yn cynnig posibiliadau deifio ardderchog ac mae llongddrylliadau a chreigiau i’w harchwilio ar hyd yr arfordir.
Mwy o wybodaeth:
images © Simon Panton |
Mae dringo clogfeini – sef dringo gyda mat glanio a heb raffau – yn dod yn weithgaredd hynod boblogaidd, yn arbennig ym Mhorth Ysgo.
Mae safleodd dringo clogfeini yn brin ym Mhen Llŷn, ond mae’r maes dringo gabro ym Mhorth Ysgo yn mwy na chyfiawnhau’r diffyg hwn. Mae’r graig yn un ardderchog, ac mae’r dringo'r un mor drawiadol ac yn cyflwyno problemau clasurol sy’n llawn sialens, sy’n addas i bob safon. Yr adegau gorau i fwynhau dringo clogfeini Porth Ysgo yw yn yr hydref, y gaeaf a’r gwanwyn pan fydd y graig ar ei gorau, ac nid yw’n beth anarferol dringo mewn crys T ym mis Ionawr.
Yr unig anfantais yw natur garegog y ddaear islaw’r clogfeini, ond mae digon o fatiau a gwylwyr llygadog yn sicrhau fod dringwyr hyderus yn cael profiad o ddringo rhai o’r clogfeini gorau yn y DU.
(cyfieithiad i ddilyn yn fuan...)
Classic ‘Must Do’ Problems:
Perrin’s Crack – Font 5+
The Incredible Shaking Man – Font 6a
Made in Heaven – Font 6b
Higginson scar – Font 6b+
Fast Cars – Font 6c
Popcorn Party – Font 7a
Ding Dong’s Arete sds – Font 7b+
Mwy o syniadau & gwybodaeth:
More activity ideas:
Kite surfing, Wind surfing, Power Kiting, Rock pooling, Beach combing, Geo-caching, Coasteering...