Ar un adeg cegin gymunedol lle gallai pererinion y 13eg ganrif ofyn am bryd o fwyd ar eu ffordd i Ynys Enlli. Mae pererinion heddiw hefyd yn sicr o gael croeso cynnes yma. Rydym yn arbenigo mewn teisennau a sgons cartref, gyda hufen ffres, a chrancod a chimychiaid lleol i'w bwyta ar y safle neu i'w bwyta gartref. Gellid gwneud trefniadau ar gyfer partion hefyd drwy drefnu ymlaen llaw. Mae lle i 52 o bobl eistedd y tu mewn a cheir teras y tu allan a llecyn dymunol ger yr afon. Croeso i gwn ar y teras. Agored o'r Pasg hyd ddiwedd mis Hydref
Yn ôl i Llefydd i Fwyta