Mur Melyn

 

 

Cliciwch ar y lluniau uchod i'w gweld yn fwy manwl.

Manylion Cyswllt

Enw Cyswllt: Neville + Jennie Evans
Cyfeiriad: Aberdaron, Pwllheli, Gwynedd
Rhif Ffôn: 01758 760522
Ebost: murmelyn@hotmail.co.uk
Gwefan: murmelyncamping.co.uk

Nodweddion Arbennig

Categori: Gwersylla

Mae safle gwersylla a charafanau Mur Melyn tua 2 filltir i'r gogledd o bentref Aberdaron ar y ffordd ddi-ddosbarth i Rydlios. Mae hwn yn safle delfrydol i grwydro'r traethau a'r pentiroedd ar flaen Penrhyn Llyn, a gellir trefnu teithiau i Ynys Enlli yn lleol. Ffermdy traddodiadol yw Mur Melyn yn cynnig toiledau, cawodydd, cyfleusterau dwr a gwaredu gwastraff. Ceir dau gae gwersylla gyda phebyll a charafanau'n gymysg. Mae'r caeau'n cael eu cynnal a'u cadw yn dda a cheir lleiniau gwastad ar yr ymylon, gan ganiatáu digon o le i gemau peli, hedfan barcud ayyb yn y canol. Mae'r perchnogion, Neville a Jennie Evans, yn rhoi croeso cynnes i'r holl wersyllwyr. Cyflenwad trydan ar gael nawr!


Top