2 Bryn Chwilog

 

 

Cliciwch ar y lluniau uchod i'w gweld yn fwy manwl.

Manylion Cyswllt

Rhif Ffôn: 07789 965352
Ebost: runspiralwales@gmail.com
Gwefan: www.aberdaron-holiday-cottage.co.uk

Nodweddion Arbennig

Categori: Hunan-ddarpar
Cysgu i fyny i 4 person

Dihangfa berffaith i 2-4 o bobl. Mae ein bwthyn croglofft traddodiadol fymryn dros filltir uwchlaw Aberdaron, ar y ffordd i Fynydd Mawr. Yn wynebu'r de. Ymlaciwch ar fainc a mwynhau'r olygfa o gaeau tonnog sy'n ymestyn fel clytwaith gwyrdd gan oleddu ar i lawr i ddatgelu'r môr. Mae'r bwthyn yn ganolog o safbwynt Llwybr yr Arfordir ym mlaen penrhyn Llyn. Mae'r tir ymhellach yn ôl, i fyny'r bryn, a lle i barcio i'w gael wrth ddringo ein llwybr garw. Dyma encilfa berffaith, lle gallwch fwynhau barbeciw, eistedd ac ymlacio ynghanol yr eithin a'r rhedyn. Gwyliwch yr haul yn machlud dros Fôr Iwerddon i'r gorllewin. Ar osod o Ddydd Gwener - Dydd Gwener. (Gwyliau ysgol) neu o Ddydd Gwener i Ddydd Llun (3 noson) penwythnos o Ddydd Llun i Ddydd Gwener (4 noson) canol yr wythnos Bwthyn clyd â chyfleusterau llawn. Ystafell fyw / ystafell fwyta gyda lle tân agored. Ystafell ymolchi gyda chawod dros y bath, cyfleusterau golchi dillad, mewn cegin lle ceir pob cyfarpar. Dwy ystafell wely yn y groglofft to, gyda nenfwd isel: Gwelyau dwbl mawr. Gellir eu datgysylltu i gael 4 gwely sengl. Partisiwn pren rhwng yr ystafelloedd. Mae un ystafell wely yn agored i'r grisiau serth. Darperir duvets a gobenyddion yn unig. Dewch â'ch dillad gwely a'ch tyweli gyda chi. Gofynnir i gwsmeriaid adael y bwthyn yn lân a thaclus. Amser cyrraedd a gadael yw 4pm.


Top