Sychnant

 

 

Cliciwch ar y lluniau uchod i'w gweld yn fwy manwl.

Manylion Cyswllt

Enw Cyswllt: Mrs Ann Griffith
Cyfeiriad: Bryncroes LL53 8ET
Rhif Ffôn: 01758 730767
Ebost: ann.griffith@hotmail.co.uk

Nodweddion Arbennig

Categori: Hunan-ddarpar
Cysgu i fyny i 5 person
Croeso i Cwn
Sêr: 3

Ffermdy a adnewyddwyd yn ddiweddar ar fferm fechan sy'n dal i gael ei gweithio ym Mhenrhyn Llyn ar gyrion ardal o harddwch naturiol eithriadol. Ychydig funudau mewn car o bentref tlws Aberdaron a thraeth Porthor. Saif y ty ar waelod lôn arw a chafodd ei foderneiddio yn 2005 er mwyn ei osod i ymwelwyr. Mae'r ty yn cynnwys tair ystafell wely: 2 ystafell ddwbl ac un gyda gwelyau bync maint llawn. Cot hefyd ar gael. Ystafell ymolchi ar y llawr uchaf. Cegin/ystafell fwyta gyda phopty trydan, oergell a phopty microdon. Lolfa gyda theledu lliw, peiriant fideo a DVD, tân trydan. Ystafell gawod ar y llawr gwaelod gyda thoiled. Ystafell amlbwrpas gyda pheiriant golchi a pheiriant sychu ac oergell. Gwres canolog olew a dillad gwely yn gynwysedig yn y pris. Meter trydan (darnau £1). Gardd: lawnt mewn lleoliad heulog. Digon o le i barcio ceir. Ar gael hefyd: carafan sefydlog, lle i 4/5, 1 dwbl a 2 sengl a bync bychan. Ystafell gawod/bath, cegin, lolfa/ystafell fwyta fawr gyda theledu a thân nwy. Dillad gwely, trydan a nwy yn gynwysedig yn y pris. Golygfeydd ysblennydd o Aberdaron. Dim anifeiliaid anwes.


Top