Gladstone House

 

 

Cliciwch ar y lluniau uchod i'w gweld yn fwy manwl.

Manylion Cyswllt

Enw Cyswllt: Mike Carew
Cyfeiriad: Aberdaron, Pwllheli LL53 8BG
Rhif Ffôn: 0151 608 8397 | 07855 449 044
Ebost: gladstone@carew.co.uk
Gwefan: http://www.gladstone-aberdaron.co.uk/GladstoneHouse/Welcome.html

Nodweddion Arbennig

Categori: Hunan-ddarpar
Cysgu i fyny i 10 person

Mae Bwthyn Gwyliau Gladstone wedi ei leoli yng nghanol pentref hanesyddol Aberdaron. 'Gladstone' oedd enw'r hen efail. Dau funud o waith cerdded i'r traeth tywod ac agos at yr holl amwynderau lleol. Yn y pentref ceir dau westy bychan sy'n paratoi prydau bwyd a lluniaeth ysgafn, siop bapur newydd 'off licence', siop fara a siop groser Spar gyda Swyddfa Bost. Mae 'Gladstone' newydd ei adnewyddu ac yn llety rhagorol i hyd at ddeg o bobl. Mae ganddo ddau le tân inglenook wedi eu hatgyweirio'n hardd gyda stofau llosgi coed a gwres canolog drwy'r ty. Y gegin yw canolbwynt y ty ac yma ceir lle tân inglenook hardd. Ceir pob cyfleuster yn y gegin - peiriant golchi llestri, popty, hob a phopty microdon. Bwrdd mawr pren gyda digon o le i 10 o bobl. Hefyd ceir ystafell amlbwrpas fechan gyda pheiriant golchi, a pheiriant sychu yn ogystal ag ystafell gawod fawr gyda basn ymolchi a thoiled. Yn y lolfa ceir digon o le i eistedd o amgylch y lle tân, stof llosgi coed a theledu a pheiriant DVD. Ar y llawr cyntaf ceir tair ystafell wely: un ystafell â dau wely sengl, ystafell ddwbl a'r brif ystafell wely lle ceir gwely dwbl a gwely sengl. Ystafell ymolchi deuluol gyda bath, cawod a thoiled a basn ymolchi hefyd ar y llawr hwn. Ar yr ail lawr ceir ystafell wely fawr ychwanegol gyda thri gwely sengl.


Top